Mae un o gefnogwyr Ceidwadol amlyca’r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi beirniadu araith ‘fawr’ y Brexitiwr Boris Johnson.

Yn ôl cyn Ganghellor y Trysorlys, Ken Clarke, doedd yna ddim newydd yn yr araith a doedd yr Ysgrifennydd Tramor ddim yn deall y byd modern a chymhlethdod masnach byd-eang.

Fe wnaeth ei sylwadau ar y BBC ar ôl i Boris Johnson bwysleisio na ddylai’r Deyrnas Unedig gadw at reolau masnach yr Undeb ar ôl ei adael.

Roedd yr araith i fod i dawelu pryderon yr Arhoswyr ond roedd hi hefyd yn cadw at y syniad o Brexit caled, gan adael y farchnad sengl a’r undeb tollau a phwysleisio’r angen am wahaniaethau sylfaenol gyda’r Undeb.

‘Gwallgo’

“Fe fydden ni’n wallgo i fynd drwy’r broses o ymddihatru o’r Undeb Ewropeaidd a pheidio â manteisio ar y rhyddid economaidd a ddaw yn ei sgil,” meddai Boris Johnson.

“Os byddwn eisiau hynny, byddwn yn gallu pysgota ein pysgod ein hunain, gwahardd masnach mewn anifeiliaid byw a thaliadau i rai o dirfeddianwyr cyfoethoca’ gwledydd Prydain.”

Dyw’r ymateb ddim wedi bod yn wresog o’r cyfandir chwaith gyda Llysgennad Sweden yn dweud nad oedd yr araith yn gweddu â’r syniad o fasnach rhynwgladol.

Gydag araith yr Ysgrifennydd Tramor yn rhan o frwydr fewnol gyda’r Canghellor, Philip Hammond, sydd eisiau cadw’n agos at yr Undeb, mae Llywydd yr Undeb, Jean C;aud Juncker wedi rhybuddio ei bod yn amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud beth yw eu telerau.