Mae’r pwysau’n parhau ar elusen Oxfam yn dilyn sgandal rhyw yn Haiti, gydag un o lysgenadau’r mudiad yn rhoi’r gorau iddi a phartner busnes pwysig yn dweud eu bod yn cadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd.

Yn ddiweddarach heddiw, fe fydd Ysgrifennydd Cymorth Tramor Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud na fydd elusennau’n cael arian os nac ydyn nhw’n diogelu pawb sy’n gysylltiedig â nhw.

Ac mae Arlywydd Haiti wedi cyhuddo swyddogion Oxfam yn y wlad cyn 2011 o “ymosodiad difrifol ar urddas dynol”.

Yr actores Minnie Driver yw’r person enwog cynta’ i droi cefn ar Oxfam. Ar ôl 20 mlynedd o fod yn llysgennad tros yr elusen, fe gyhoeddodd ei bod yn rhoi’r gorau iddi.

Yr ymateb

Mae cwmni siopau Marks and Spencer hefyd wedi dweud eu bod yn cadw llygad ar ymateb Oxfam i’r helynt cyn parhau gyda phartneriaeth sy’n cyfrannu dillad i Oxfam.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Cymorth Tramor, Penny Mordaunt, yn dweud bod ecsploetio pobol a phlant yn rhywiol wastad yn annerbyniol ond ei fod yn “ffiaidd” gan bobl sydd i fod i helpu a gwarchod.

Fe fydd yn cyhoeddi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi £5 miliwn at fudiad y Bartneriaeth Fyd-eang i Roi Terfyn ar Drais yn Erbyn Plant.