“Mae rhai pobol yn fwy penderfynol nag erioed i rwystro Brexit” – dyna rybudd yr Ysgrifennydd Tramor mewn araith heddiw.

Bydd Boris Johnson yn dweud y byddai cefnu ar Brexit yn “gamgymeriad trychinebus” gan nodi: “Allwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd” a gan fynnu y byddai gorfod cadw at reolau Ewropeaidd wedyn yn “annioddefol” ac “annemocrataidd”.

Ond, bydd hefyd yn cydnabod bod rhaid estyn llaw i’r unigolion “sydd yn dal i fod yn gofidio” ac yn dweud nad oes angen pryderu.

Er hynny, yn ôl yr ymateb cynta’, mae’n debyg o achosi rhagor o ddadlau, gyda Llysgennad Sweden eisoes yn dweud nad oedd modd cyfuno agweddau Boris Johnson gyda masnach rydd.

Cyfres o areithiau

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o areithiau gan weinidogion cabinet, fydd yn amlinellu amcanion y Llywodraeth am y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Ysgrifennydd Brexit, David Davis, a’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, ymysg y gweinidogion fydd yn areithio. Mae’n debyg na fydd y Canghellor Philip Hammond yn cymryd rhan.