Mae barnwr mewn llys yn Llundain yn dweud y dylai sylfaenydd y wefan WikiLeaks, Julian Assange, “fagu asgwrn cefn” a dod gerbron y llys ei hun, wrth i’r warant ar gyfer ei arestio gael ei hymestyn.

Cyfreithwyr y gŵr sydd wedi bod yn derbyn lloches yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers 2012, wnaeth gyflwyno ei achos yn Llys Ynadon Westminster heddiw, gan ddadlau bod ymlid Julian Assange bellach y tu hwnt i ddiddordeb y cyhoedd.

Ond fe benderfynodd y barnwr nad oedd hi’n cyd-fynd â’r ddadl honno, ac y dylai’r awdurdodau barhau i geisio dwyn Julian Assange i’r ddalfa.

Angen “magu dewrder”

“Dw i’n gweld arestio yn ymateb dilys, er gwaetha’r ffaith bod Mr Assange wedi cyfyngu ei ryddid personol am nifer o flynyddoedd,” meddai’r barnwr.

“Mae’r rheiny sydd ar fechnïaeth ledled y wlad, a phobol sy’n wynebu cyhuddiadau, yn gorfod dod i’r llys i wynebu sgil effeithiau eu penderfyniadau.

“Fe ddylai [Julian Assange] fagu asgwrn cefn i wneud yr un peth.”