Fe fydd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond, yn dechrau ar ei daith o gwmpas Ewrop heddiw, gyda’r neges y bydd y Deyrnas Unedig yn dal i “drysori” ei pherthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Ymhlith yr aelodau o’r Undeb a fydd yn cael ymweliad ganddo y mae Sweden, Portiwgal, Sbaen a’r Iseldiroedd, wrth iddo gwrdd â gwleidyddion ac arweinwyr busnes yn y gweledydd hynny.

Mi fydd hefyd yn ymweld â Norwy, sydd ddim yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ond sy’n rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r farchnad rydd.

Dyma system nad yw Prif Weinidiog Prydain, Theresa May, am ddilyn yn sgil Brexit, gan na fyddai’n rhoi rheolaeth llawn i San Steffan ar gyfreithiau’n ymwneud â mewnfudo, ac fe fyddai’n golygu bod dal angen gwneud taliadau i Ewrop.

Mae’r daith hon gan Philip Hammond yn rhan o baratoadau’r llywodraeth ar gyfer y rhan nesaf o drafodaethau Brexit, a fydd yn canolbwyntio ar y cyfnod o ddwy flynedd cyn y digwyddiad ei hun.

Mae disgwyl y bydd yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, yn amlinellu ei farn ar Brexit yfory (dydd Mercher, Chwefror 13), ac fe fydd Theresa May yn teithio i Munich yn yr Almaen ddiwedd yr wythnos.

“Perthynas newydd, ddofn ac arbennig”

“Dw i am fynd â neges i Ewrop yn dweud ein bod ni, er gwaethaf gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dal i drysori ein perthynas gyda’r gwledydd, y dinasyddion a’r busnesau hynny yr ydym ni’n agos iddyn nhw o ran hanes ac egwyddorion,” meddai Philip Hammond.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gytuno ar berthynas newydd, ddofn ac arbennig gyda’r Undeb Ewropeaidd a fydd yn tyfu’n gryf yn ystod y dyfodol.”