Cafodd awyren yn cludo tîm rygbi Ffrainc ei hatal rhag gadael maes awyr Caeredin bore ma, wrth i nifer o’r chwaraewyr gael eu holi gan yr heddlu.

Daeth yn sgil adroddiadau o ymosodiad rhywiol yn y ddinas yn ystod oriau man fore dydd Llun (12 Chwefror), ar ôl i’r Ffrancwyr golli yn erbyn yr Alban o 32 pwynt i 26.

Ond dywedodd Heddlu’r Alban eu bod nhw bellach wedi siarad gyda nifer o lygad-dystion posib yng Nghaeredin a’u bod nhw wedi dod i’r casgliad nad oedd “unrhyw drosedd wedi cael ei chyflawni.”

Roedd cyfrif Twitter tîm rygbi Ffrainc wedi cadarnhau bod aelodau o’r garfan genedlaethol yn cael eu holi gan yr heddlu, a’u bod nhw’n disgwyl am fanylion pellach.

Roedd disgwyl i’r awyren adael maes awyr Caeredin am 11yb heddiw (dydd Llun, Chwefror 12).