Mae rhagor o bobol wedi colli eu swyddi yn dilyn cwymp y cwmni adeiladu a gwasanaethau cyhoeddus, Carillion, fis diwethaf.

Mae hynny’n golygu bod cyfanswm o 989 bellach wedi’u gwneud yn ddi-waith ers i’r cwmni fynd i’r wal ddechrau mis Ionawr, wrth i 59 yn rhagor o weithwyr golli eu swyddi.

Ond mae’r Derbynnydd Swyddogol yn dweud bod 6,668 o swyddi, o’r gweithlu o 18,000, wedi cadw eu swyddi, gyda thua 4,400 o’r ffigwr hwnnw o ganlyniad i drosglwyddo rhai o gytundebau Carillion i gwmnïau eraill.

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, mae’r gweithwyr hynny sydd wedi colli eu gwaith yn derbyn cymorth lle bo modd.