Mae Oxfam yn wynebu trafodaethau brys gyda’r Llywodraeth heddiw yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol gan weithwyr dyngarol yn Haiti.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Penny Mordaunt, yn cwrdd â’r elusen ddydd Llun, ar ôl rhybuddio bod y “sgandal” wedi rhoi’r berthynas gyda’r Llywodraeth mewn perygl.

Mae Oxfam yn wynebu beirniadaeth gynyddol ynglŷn â’r modd roedd wedi delio gyda’r honiadau ond mae’n gwadu ei fod wedi ceisio celu bod gweithwyr wedi defnyddio puteiniaid yn Haiti yn 2011.

Dywedodd Penny Mordaunt ddydd Sul bod yr elusen wedi dweud celwydd ac wedi methu datgelu manylion llawn ynglŷn â’i hymchwiliad i’r camymddwyn i’r awdurdodau perthnasol.

Mae elusennau, gan gynnwys Oxfam, wedi cael gwybod y byddan nhw’n colli eu harian gan y Llywodraeth os ydyn nhw’n methu cydymffurfio gyda materion diogelwch.

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi ysgrifennu at Oxfam i ofyn am ragor o wybodaeth.

Cafodd pedwar aelod o Oxfam eu diswyddo ac roedd tri wedi ymddiswyddo cyn i’r ymchwiliad ddod i ben yn 2011.

Cyn y cyfarfod heddiw, mae Oxfam wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i wella diogelwch, gan gynnwys gwella’r ffyrdd o wirio manylion gweithwyr sy’n cael eu recriwtio.

Dywed Oxfam eu bod wedi’u “brawychu” gan yr honiadau.