Mae Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol San Steffan, Penny Mordaunt wedi beirniadu elusen Oxfam ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi rhoi’r hawl i weithwyr ymddiswyddo tros honiadau rhyw yn Haiti.

Dywedodd, wrth ymateb i gwestiwn ar raglen Andrew Marr y BBC, fod dulliau moesol staff o reoli’r elusen wedi methu.

“Dw i’n credu ei bod yn syfrdanol a does dim ots pa mor dda oedd yr arferion gwarchod sydd yn eu lle mewn sefydliad. Os nad oes gan y sefydliad hwnnw yr arweiniad moesol i wneud y peth cywir, ac yn enwedig lle mae tystiolaeth o weithgarwch troseddol i [beidio â] throsglwyddo’r wybodaeth honno i’r awdurdodau priodol gan gynnwys awdurdodau sy’n erlyn, mae hynny’n ddiffyg arweiniad llwyr.”

Mae hi wedi rhybuddio y gallai Oxfam golli arian pe bai’n gwrthod cydymffurfio â materion gwarchod.

Cefndir

Mae penaethiaid Oxfam yn gwadu iddyn nhw gelu honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol yn Haiti, sy’n cynnwys defnyddio puteiniaid yn y wlad yn 2011.

Maen nhw’n dadlau eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliad pan ddaeth yr honiadau i’r amlwg am y tro cyntaf.

Dywedodd Penny Mordaunt ei bod hi wedi gofyn am eglurhad llawn o’r sefyllfa, ac y byddan nhw’n colli arian os nad ydyn nhw’n gwneud hynny.

Mae’r Comisiwn Elusennau hefyd wedi gofyn am eglurhad “ar fyrder”.

Cafodd pedwar o staff eu diswyddo, ond ymddiswyddodd tri arall, gan gynnwys cyfarwyddwr Haiti yr elusen, cyn bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae’r elusen wedi gwadu bod plant ymhlith y puteiniaid.