Mae rhybudd i deithwyr yn rhannau gorllewinol Lloegr a’r Alban a Gogledd Iwerddon yn dilyn eira dros nos.

Mae disgwyl rhew yn yr ardaloedd hyn yn ystod y dydd heddiw hefyd.

Fe fu nifer o wrthdrawiadau eisoes yng ngogledd orllewin Lloegr o ganlyniad i’r tywydd, yn ôl yr heddlu, sy’n rhybuddio gyrwyr i arafu.

Mae disgwyl cenllysg a glaw gydol y dydd, yn ogystal â hyd at 10cm o eira ar dir uchel.

Mae rhybudd gan y Swyddfa Dywydd y gallai nifer o ardaloedd golli eu cyflenwadau trydan, a bod perygl i gerbydau fynd yn sownd ar y ffyrdd.

Bydd y rhybudd yn weithredol tan heno, ond mae disgwyl rhybudd pellach dros y diwrnodau nesaf.

Fe allai’r tymheredd mewn rhai ardaloedd ostwng i -5 gradd selsiws.