Mae William Billingham, 54 o Walsall, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’i ferch fach wyth oed.

Cafwyd hyd i Mylee yng nghartref ei thad ar Ionawr 20 ar ôl iddi gael ei thrywanu, ac fe gafodd ei thad ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fygwth lladd.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon yn Wolverhampton ddydd Llun.