Mae Mary Lou McDonald wedi cychwyn ar ei swydd fel arweinydd newydd Sinn Fein, wrth i Gerry Adams gamu o’r neilltu wedi dros 30 mlynedd wrth y llyw.

Cafodd yr aelod seneddol dros ganol Dulyn yn senedd y Weriniaeth ei chadarnhau fel arweinydd mewn cynhadledd arbennig o’r blaid yn Nulyn y prynhawn yma.

Yn ei haraith gyntaf, dywedodd fod arni eisiau sicrhau ac ennill refferendwm ar uno Iwerddon.

“Mae arnaf i eisiau ennill hyn gyda pharch, graslonrwydd a haelioni,” meddai.

“Nid pwytho’r gogledd i’r de i greu gwladwriaeth rydd 32 sir yw ein nod. Mae arnom eisiau Iwerddon newydd, lle caiff hawliau eu gwarantu, diwylliannau eu parchu ac amrywiaeth ein hunaniaethau eu cofleidio.

“Nawr yw’r amser am feddwl o’r newydd a syniadau dewr i’n symud ymlaen.”

Bygythiad Brexit

Rhybuddiodd hefyd fod Brexit yn fygythiad gwirioneddol i ffyniant a bywyd economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol Iwerddon.

“Mae’n her sylfaenol i 20 mlynedd o gynnydd yr ymdrechwyd yn galed amdano,” meddai.

“Ni ellir gorfodi ffin ar ynys Iwerddon.

“Ni fydd Iwerddon yn fodlon cael ei haberthu ar allor gemau ac antics y Torïaid yn Llundain.”