Fe fydd 101 yn rhagor o swyddi yn cael eu colli yn sgil cwymp y cwmni adeiladu a gwasanaethau cyhoeddus, Carillion, fis diwethaf.

Dim ond ddechrau’r wythnos hon (dydd Llun, Chwefror 5) y daeth y cyhoeddiad y bydd 452 o weithwyr yn cael eu rhoi ar y clwt, sy’n golygu bod y cyfanswm o’r rheiny a fydd yn colli eu swyddi bellach wedi cyrraedd 930.

Yn ôl llefarydd ar ran y Derbynnydd Swyddogol, maen nhw wedi adfer 2,250 o swyddi ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal ddechrau’r flwyddyn newydd.

Ond mae’r swyddi diweddaraf hyn ymhlith y rheiny sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Carillion ar gytundebau preifat a chyhoeddus.

Mae’r llefarydd hefyd yn dweud eu bod nhw’n cynnig cymorth i’r rheiny sydd wedi colli eu swyddi.