Mae nifer y bobol sy’n cael eu trywanu i farwolaeth yng Nghymru a Lloegr ar ei uchaf ers degawd, yn ol yr ystadegau diweddaraf.

Fe gafodd 215 o bobol eu lladd gan gyllell neu lafn rhwng Mawrth 2016 a Mawrth 2017.

Mae astudiaeth o’r modd y mae pobol yn cael eu llofruddio yng Nghymru a Lloegr yn dangos mai trwy ddefnyddio cyllell neu offeryn miniog arall yw’r mwyaf cyffredin.

Dynion a merched

Fe gafodd 164 o ddynion eu lladd gan gyllell yn y cyfnod dan sylw – y nifer mwyaf ers 2009, pan oedd y nifer yn 180.

Hyn i gymharu â 51 o ferched a menywod a gafodd eu trywanu i farwolaeth yn 2016/17. Mae hwnnw y nifer isaf ers deng mlynedd.

A chymryd yr holl achosion, yn ddynion a menywod, roedd 67 o’r rheiny a laddwyd gan gyllell o dan 24 oed – sydd bron draean o’r achosion.

Troseddau cyllyll 

Fe gafodd 37,443 o droseddau yn ymwneud â chyllell neu lafn miniog eu riportio i’r heddlu yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2017 – cynnydd o 21% ers 2015/16.