Fe fydd dwy ddynes yn ceisio darbwyllo’r Uchel Lys heddiw fod eisiau cadw’r treisiwr John Worboys dan glo.

 

Mae’r ddwy, nad oes modd eu henwi, yn rhoi tystiolaeth heddiw i Syr Brian Leveson a Mr Ustus Garnham.

 

Yn ystod yr un gwrandawiad, fe fydd Maer Llundain, Sadiq Khan, yn gofyn am adolygiad barnwrol o benderfyniad y Bwrdd Parôl i ryddhau’r gyrrwr tacsi ar ôl dim ond naw mlynedd o garchar.

 

Mae’r broses o’i ryddhau wedi cael ei hatal am y tro tan i’r barnwyr yn yr Uchel Lys benderfynu.

 

‘Cwestiynau difrifol’

 

Pe bai’r ddwy ddynes a Sadiq Khan yn llwyddiannus, fe fyddai dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer yr adolygiad barnwrol.

 

Mewn gwrandawiad cynharach, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Supperstone, fod yr achos “yn codi cwestiynau difrifol”.

 

Cafodd John Worboys ei garcharu yn 2009 am o leiaf wyth mlynedd, a hynny ar ôl iddo roi cyffuriau i’r menywod cyn ymosod yn rhywiol arnyn nhw yn ei dacsi.

Roedd yr heddlu wedi cadarnhau bod degau yn rhagor o gwynion yn ei erbyn ond ddaeth y rheiny ddim gerbron llys.