Mae’r ymgyrchydd yn erbyn Brexit, Anna Soubry, wedi galw ar y Prif Weinidog, Theresa May, i “gael gwared” â’r aelodau hynny o’r Llywodraeth sydd fwyaf brwd o blaid gadael Ewrop. 

 Yn ôl y cyn-Weinidog Busnes, mae angen i Theresa May “fagu asgwrn cefn” er mwyn gwrthsefyll aelodau fel Boris Johnson a Jacob Rees-Mogg sydd o blaid Brexit caled.

Fe wnaeth ei sylwadau mewn cyfweliad ar y rhaglen Newsnight ar BBC2 neithiwr (nos Lun), gan ychwanegu hefyd y byddai’n barod i adael y blaid pe na bai’r Prif Weinidog yn cymryd y camau. 

“Os nad yw Theresa May yn magu asgwrn cefn ac yn cael gwared â#r bobol hyn,” meddai, “mae yna berygl go iawn y bydd hi’n colli cyfran fawr o’i chefnogaeth, nid yn unig yn y blaid seneddol, ond yn y blaid Geidwadol yn gyffredinol.”

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd y cyn-Ganghellor, Norman Lamont, fod sylwadau Anna Soubry yn “hollol wirion”, a’i bod hi wedi mynd “dros ben llestri”.