Fe fydd 452 yn rhagor o swyddi yn cael eu colli ar ôl i gwmni adeiladu Carillion fynd i’r wal.

Yn ôl y Derbynnydd Swyddogol mae’r swyddi’n cwmpasu nifer o wahanol rolau sy’n gysylltiedig â chytundebau preifat a chyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r diswyddiadau yma yn ychwanegol i’r 377 o swyddi a gafodd eu colli ddydd Gwener.

Mae 100 o swyddi eraill sy’n gysylltiedig â’r sector cyhoeddus wedi cael eu diogelu meddai’r datganiad gan ychwanegu: “Rydym yn deall y bydd hyn yn gyfnod anodd i’r rhai sydd wedi colli eu swyddi.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y bydd yn cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi colli eu swyddi lle bod hynny’n bosib.