Mae pedwar ysbyty ym Manceinion wedi canslo llawdriniaethau bore ma ar ôl i bibell ddŵr dorri gan effeithio’r cyflenwad.

Mae cleifion wedi cael eu hannog i beidio mynd i Ysbyty’r Manchester Royal Infirmary, yr ysbyty Llygaid ym Manceinion, Ysbyty’r Santes Fair ac Ysbyty Plant  Manceinion tra bod gwaith yn parhau i geisio datrys y broblem oni bai bod “angen brys”.

Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Manceinion y byddai llawdriniaeth canser yn parhau yn ôl yr arfer, ynghyd ag unrhyw driniaethau brys.

Fe fydd llawdriniaethau yn cael eu hail-drefnu “mor fuan â phosib” meddai’r ymddiriedolaeth.