Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn arall mewn bar yn Lerpwl.

Cafodd Anthony Condron, 29, anafiadau difrifol yn Maya Bar yn y ddinas, ac fe fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach fore Sadwrn.

Roedd e wedi bod allan gyda’i gariad a’i ffrindiau.

Mae’r dynion – sy’n 22, 23 a 24 oed – yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â chriw o ferched oedd yn y bar ar y pryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Glannau Mersi ar 0151 777 4044 neu 101.