Mae’r treisiwr a’r gyrrwr tacsi, John Worboys wedi cael ei symud o garchar Belmarsh yn Llundain i Wakefield yn Swydd Efrog yn dilyn anfodlonrwydd.

Fe fu cryn helynt ar ôl iddo gael ei symud i Lundain, y ddinas lle digwyddodd ei droseddau, ond mae ei gyfreithwyr ar hyn o bryd yn ceisio sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau ar barôl.

Ond mae rhagor o honiadau yn ei erbyn gan bump o fenywod. Mae dwy ddynes wedi gofyn i’r heddlu ymchwilio i droseddau honedig na chafodd eu hystyried fel rhan o’i achos llys gwreiddiol.

Troseddau

Cafodd ei garcharu am gyfnod amhenodol yn 2009, gyda’r barnwr yn penderfynu y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.

Cafwyd e’n euog o 19 o droseddau yn erbyn 12 o fenywod, ond mae’n destun ymchwiliad i fwy na 100 o gwynion pellach.

Fe ddaeth i’r amlwg fis Ionawr fod y Bwrdd Parôl wedi penderfynu y dylai gael ei ryddhau ar drwydded.

Ond mae’r penderfyniad hwnnw wedi’i ohirio gan farnwr am y tro.

Mae disgwyl gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddiwedd yr wythnos hon.