Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i ddau achos pellach o ymosodiadau rhyw gan y cynhyrchydd ffilmiau Harvey Weinstein.

Mae dynes wedi honni iddo ymosod arni yn Llundain yn 2011, ac mae lle i gredu bod digwyddiad honedig arall y tu allan i wledydd Prydain.

Mae naw o fenywod bellach wedi gwneud honiadau yn ei erbyn, ac yn eu plith mae’r actores Uma Thurman, sy’n honni i Harvey Weinstein ymosod arni yn ei hystafell mewn gwesty adeg cyhoeddi’r ffilm Pulp Fiction yn 1994.

Bellach, mae 14 o honiadau yn ei erbyn, ac mae lle i gredu eu bod yn amrwyio o’r 1980au i 2015.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau enw Harvey Weinstein, ond mae lle i gredu ei fod yn destun Ymchwiliad Kaguyak.

Yr honiadau

Cafodd honiadau yn erbyn Harvey Weinstein eu gwneud am y tro cyntaf fis Hydref y llynedd, pan dderbyniodd Heddlu Glannau Mersi gwyn.

Dywedodd yr actores Lysette Anthony yn ddiweddarach ei bod hi wedi dweud wrth yr heddlu ei bod hi wedi bod yn destun ymosodiad gan Harvey Weinstein yn ei chartref yn Llundain yn y 1980au.

Ar Hydref 31 y llynedd, dywedodd wythfed dynes iddi ddioddef ymosodiad yn Iwerddon, ac mae Heddlu Iwerddon yn ymchwilio.

Mae’r heddlu yn Efrog Newydd a Los Angeles hefyd yn ymchwilio i ragor o honiadau yn ei erbyn.

Mae lle i gredu bod Uma Thurman wedi dioddef ymosodiad, a bod Harvey Weinstein wedi bygwth dinistrio ei gyrfa yn dilyn ail ddigwyddiad.

Mae adroddiadau bod Harvey Weinstein yn ystyried dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Uma Thurman yn sgil yr honiadau.

Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau hyd yn hyn.