Mae cyn-arweinydd seneddol yr SNP, Angus Roberston, wedi ymddiswyddo o fod yn ddirprwy arweinydd ei blaid.

Wyth mis ar ôl colli ei sedd yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, dywedodd Angus Robertson ei fod yn rhoi’r gorau iddi er mwyn dilyn cyfleoedd gyrfa newydd.

Roedd wedi cynrychioli etholaeth Moray ers 2001, ac wedi bod yn ddirprwy arweinydd ers 2016.

Mewn llythyr at yr arweinydd Nicola Sturgeon, dywedodd nad oedd yn gallu cyflawni ei waith yn llawn fel dirprwy arweinydd ers colli ei sedd.

Yn ei hateb iddo, dywed Nicola Sturgeon ei fod wedi bod yn ffynhonnell o gyngor doeth iddi bob amser.

“Gallwch ymfalchïo’n fawr yn y rhan rydych wedi ei chwarae yn ein llwyddiant gwleidyddol ac etholiadol yn yr Alban,” meddai.

“Mae hyn yn cynnwys eich rhan yn refferendwm 2014 a ddaeth â’n gwlad yn nes at annibyniaeth nag erioed o’r blaen.

“Dw i’n gwybod eich bod yn awyddus i ddilyn cyfleoedd gyrfa eraill ar hyn o bryd, a dw i’n dymuno’n dda ichi, ond dw i’n gobeithio y gwelwn ni chi’n dychwelyd i flaen y gad wleidyddol yn y dyfodol.”