Mae dyn o Gaerdydd wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio, wedi iddo yrru ei fan i ganol torf o Fwslimiaid yn Llundain y llynedd.

Awr yn unig gymrodd hi i’r rheithgor o wyth menyw a phedwar dyn i gael Darren Osborne, 48, yn euog o’r ddau gyhuddiad, yn dilyn y digwyddiad o flaen mosg yn Finsbury Park ar Fehefin 19, 2017.

Roedd y tad i bedwar wedi gwadu’r ddau gyhuddiad yn ei erbyn, ac wrth i’r ddwy ddyfarniad gael eu darllen allan yn Llys y Goron Woolwich toc wedi pedwar o’r gloch brynhawn Iau (Chwefror 1), roedd yntau’n edrych o gwmpas yr ystafell ac yn nodio’i ben.

Mae’r barnwr, Mrs Cheema-Grubb wedi gohirio’r achos tan 10.30yb ddydd Gwener (Chwefror 2). Mae disgwyl i Darren Osborne gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Woolwich bryd hynny.