Mae’r Cymro sydd wedi’i gyhuddo o gyflawni ymosodiad brawychol yn Finsbury Park yn Llundain wedi dweud ei fod e “eisiau achosi cymaint o niwed â phosib”.
Mae Darren Osborne, sy’n 48 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad ar fosg fis Mehefin diwethaf.
Cafodd Makram Ali, 51, ei ladd a chafodd naw o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad.
Roedd Darren Osborne eisoes wedi dweud ei fod yn gobeithio lladd Jeremy Corbyn yn ystod yr ymosodiad, ac y byddai wedi bod yn “well” pe bai Maer Llundain, Sadiq Khan yno hefyd.
Y bwriad gwreiddiol, meddai, oedd targedu gorymdaith yn y ddinas.
‘Terry a Dave’
Ar wythfed diwrnod yr achos llys, mae’n cael ei holi am ddau ddyn, ‘Terry a Dave’ ar ôl crybwyll yr enwau ddydd Mawrth.
Dywedodd mai ‘Dave’ oedd yn gyrru’r fan pan darodd i mewn i bobol y tu allan i’r mosg. Ac mae’n honni bod dyn arall, ‘Terry’ yn rhan o’r cynllwyn hefyd.
Dywedodd ei fod e wedi mynd am ddiod gyda’r ddau ar ôl cael gwybod na fyddai ymosodiad yn digwydd.
“Doedd dim targed digonol,” meddai. “Doedd dim diddordeb gyda fi gael un neu ddau [o bobol] yn unig. Os oeddwn i’n mynd i’w wneud e, ro’n i am ei wneud e’n iawn ac achosi cymaint o ddifrod â phosib.”
Mae’n gwadu cyhuddiadau o lofruddio ac o geisio llofruddio, ac mae’r achos yn parhau.