Fe fydd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol heddiw i drafod y ffraeo am y gwahaniaeth rhwng cyflogau dynion a menywod o fewn y gorfforaeth.

Bydd Tony Hall yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ddydd Mercher (Ionawr 31).

Mae’r Prif Gyfarwyddwr wedi ymddiheuro i weithwyr sydd heb dderbyn tâl cywir, ond mae’n mynnu nad yw’r gorfforaeth wedi torri’r gyfraith.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddiad adolygiad ddydd Mawrth (Ionawr 30), daeth i’r casgliad “nad oes tystiolaeth o fias rhyw mewn penderfyniadau tros gyflog”.

Tâl “da iawn”

Yn adroddiad blynyddol y BBC y llynedd, cafodd cyflogau gweithwyr drutaf y gorfforaeth eu cyhoeddi, a datgelwyd bod hollt clir rhwng cyflogau dynion a menywod.

Yn ôl yr adroddiad hwn, mae Tony Hall yn derbyn cyflog rhwng £450,000 a £499,999 y flwyddyn.

“Dw i wedi cael yr un cyflog ers cyrraedd yma,” meddai wrth Channel 4 News gan gydnabod ei fod heb dderbyn gostyngiad cyflog. “Dw i ddim eisiau mwy. Dw i ddim eisiau llai.

“Dw i’n credu fy mod i’n cael fy nhalu’n iawn am yr hyn dw i’n ei wneud.”