Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi ymateb i’r rheiny sy’n codi cwestiynau am ei gallu i arwain y Ceidwadwyr, gan fynnu nad yw hi am roi’r gorau i’w swydd.

“Dw i ddim yn ddynes sy’n ildio,” meddai, wedi i ohebydd ofyn a oedd hi’n credu y byddai’n dal arwain y blaid Dorïaidd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.  “Mae yna swydd hir dymor i’w chwblhau,” meddai wedyn.

Wrth gael ei holi, dywedodd bod “wastad mwy y gallwn ni ei wneud” ar rai materion, ond ei bod hi’n hen bryd i aelodau ei phlaid gydnabod llwyddiannau’r Llywodraeth bresennol.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod yn siarad am y llwyddiannau sydd wedi bod,” meddai wrth ohebwyr sydd yn teithio â hi yn ystod ymweliad masnach â Tsieina.

Daw ei sylwadau yn sgil wythnos llawn helynt, gyda sïon yn San Steffan bod rhai’n cynllwynio yn ei herbyn.