Mae pump dyn wedi’u harestio ar ôl i hanner tunnell o gocên gwerth £50m gael ei ganfod mewn awyren breifat.

Fe wnaeth yr awdurdodau o hyd i’r cyffur ar ôl i’r awyren o Golombia lanio ym maes awyr Fanborough yn Swydd Hampshire ddoe (Ionawr 29).

Roedd tua 500kg o’r cyffur Dosbarth A wedi ei guddio mewn 15 cês dillad, ac fe gafodd dau ddyn o wledydd Prydain, dau Sbaenwr ac un Eidalwr eu dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o smyglo cyffur anghyfreithlon i’r wlad.

Fe gafodd criw yr awyren eu holi yn y ddalfa hefyd, cyn cael eu rhyddhau.

Mae lle i gredu mai dyma’r cyflenwad mwyaf o gocên sydd wedi cael ei feddiannu gan yr awdurdodau ar dir y Deyrnas Unedig.