Fe fydd y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant cyfrifon yn cynnal ymchwiliad i gwmni KPMG ynglŷn â’u cyfrifon i gwmni adeiladu Carillion a aeth i’r wal yn gynharach y mis hwn.

Fe gyhoeddodd y Cyngor Cofnodi Ariannol (FRC) ddydd Llun y byddai’n cynnal yr ymchwiliad yn dilyn ymholiadau sydd wedi cael eu gwneud ers i Carillion gyhoeddi rhybudd am ei elw ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad edrych ar gyfrifon y cwmni rhwng 2014, 2015 a 2016 yn ogystal â gwaith ychwanegol yn ystod 2017.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Carillion gael ei gyhuddo gan y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau o osgoi gwneud taliadau pensiwn tra bod taliadau mawr wedi cael eu gwneud i gyfranddalwyr a phenaethiaid y cwmni.

Fe aeth Carillion i’r wal gyda dyledion o £900 miliwn a diffyg o £590 miliwn yn ei gronfa bensiwn. Roedd Carillion yn gysylltiedig â nifer o brosiectau isadeiledd allweddol.