Mae dyn 28 oed o ardal Manceinion wedi’i gyhuddo o lofruddio babi 22 mis oed.

Bu farw Ella-Rose Clover o Wythenshawe o anafiadau nad oes modd eu hesbonio.

Mae disgwyl i Michael Wild fynd gerbron ynadon Manceinion a Salford heddiw.

Mae dynes 34 oed a gafodd ei harestio wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.