Mae tri o lanciau wedi marw ar ôl i gar daro i mewn i arhosfan bws yn Hayes yng ngorllewin Llundain neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 8.41pm, ond fe fu farw’r tri yn y fan a’r lle. Mae lle i gredu eu bod nhw i gyd yn 16 oed, a’u bod nhw ar eu ffordd i barti pen-blwydd.

Cafodd dyn 28 oed ei arestio ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd llygad-dystion fod y llanciau wedi bod yn ymladd ar bwys garej Esso cyn y gwrthdrawiad.

Ond does dim lluniau camerâu cylch-cyfyng ar gael o’r digwyddiad oddi ar gyffordd 4 yr M4.

Mae teyrngedau ger safle’r gwrthdrawiad yn enwi un o’r llanciau fel ‘George’.