Fydd y gyrrwr tacsis John Worboys ddim yn cael ei ryddhau o’r carchar am y tro, yn dilyn her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad.

Roedd dwy ddynes a gafodd eu treisio ganddo wedi gwneud cais i’r Uchel Lys i’w gadw dan glo a chynnal gwrandawiad pellach.

Bydd cais am y gwrandawiad hwnnw’n cael ei gyflwyno rhwng Chwefror 6-8.

Bu’r Bwrdd Parôl dan y lach ers iddyn nhw gyhoeddi y byddai John Worboys yn cael ei ryddhau ar ôl dim ond degawd yn y carchar, er iddo gael ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol dan glo yn 2009. Daeth cadarnhad bryd hynny y byddai’n rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd yn y carchar.

Roedd wedi’i ganfod yn euog o 19 o droseddau yn erbyn 12 o fenywod, ond mae lle i gredu y gallai fod wedi ymosod ar dros 100.

Sadiq Khan

Yn gynharach yr wythnos hon, roedd Maer Llundain, Sadiq Khan yn yr Uchel Lys yn ceisio atal John Worboys rhag cael ei ryddhau, gan ddweud ei fod yn awyddus i roi “diogelwch trigolion Llundain ac anghenion dioddefwyr yn gyntaf”.

Fe wnaeth Sadiq Khan droi at yr Uchel Lys yn dilyn penderfyniad Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, David Gauke i beidio â rhoi sêl bendith i adolygiad barnwrol.

Dywedodd Sadiq Khan fod y penderfyniad wedi ei “syfrdanu”, a bod angen “craffu arno”.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn “croesawu” y penderfyniad i gadw John Worboys dan glo am y tro.

Y diweddaraf

Cafwyd John Worboys yn euog o dreisio menywod yn ei dacsi.

Cafodd ei symud i garchar Belmarsh yn Llundain o Wakefield yn Swydd Efrog cyn cael ei ryddhau, ac fe achosodd hynny gryn anfodlonrwydd.

Ddydd Mawrth, daeth cadarnhad bod yr heddlu’n ymchwilio i honiadau newydd.

Mae lle i gredu bod yr ymosodiad honedig diweddaraf wedi digwydd yn 1997. Ond dyw John Worboys ddim wedi cael ei arestio o’r newydd hyd yn hyn.