Dylai pobol sy’n ysmygu rhoi’r gorau i’r arfer yn llwyr, yn hytrach nag ysmygu llai.

Dyna mae ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain yn cynghori mewn adroddiad newydd sydd yn rhybuddio nad oes modd ysmygu mewn modd “diogel”.

Yn ôl eu hadroddiad mae ysmygu dim ond un sigarét y dydd yn medru cynyddu’r risg o gael strôc gan 30%.

Hefyd mae’n debyg bod ysmygu un sigarét yn ddyddiol yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefyd y galon gan o leiaf 48% i ddynion, a 57% i fenywod.

“Dydi’r fath beth ag ysmygu ar lefel diogel ddim yn bodoli,” meddai’r adroddiad.

“Er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu’r ddau afiechyd cyffredin mawr yma, dylai ysmygwyr anelu at roi’r gorau yn llwyr.”