Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed merched Lloegr, Phil Neville wedi cael ei feirniadu am negeseuon ar Twitter yn dilorni merched.
Cafodd y negeseuon eu postio chwe blynedd yn ôl, ond maen nhw wedi cael eu darganfod unwaith eto yn dilyn ei benodiad gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Fe ddaw’r helynt ychydig dros wythnos yn unig ers iddo gael ei gysylltu â swydd hyfforddi fel rhan o dîm rheolwr newydd Cymru, Ryan Giggs.
Roedd y Gymdeithas Bêl-droed hwythau dan y lach ddoe am gyhoeddi’r newyddion am ei benodiad ar gyfrif Twitter tîm y dynion.
Roedd y negeseuon Twitter yn cyfeirio at le merched yn y gegin, ac at “guro” ei wraig.
Diffyg profiad
Ond mae Ymddiriedolaeth Chwaraeon Merched wedi beirniadu’r penodiad ar sail ei ddiffyg profiad fel rheolwr yn y gêm i ferched.
Mewn datganiad, maen nhw’n dweud fod y penodiad yn “tanseilio’r llwybrau hyfforddi”, gan ychwanegu y byddai’n “ergyd i gannoedd o hyfforddwyr pêl-droed gwrywaidd a benywaidd”.
Wrth gyfeirio at y negeseuon ar Twitter, meddai’r Ymddiriedolaeth: “Rydym hefyd wedi tristáu gan negeseuon Twitter hanesyddol Phil Neville a’r diffyg sylw am hyn gan y Gymdeithas Bêl-droed.
“Yn oes #MeToo a TimesUp, rhaid i bob unigolyn a sefydliad fod yn fwy ymwybodol o ymddygiad rhywiaethol yn y gorffennol ac ymateb yn briodol iddo.”
Mae Phil Neville bellach wedi dileu ei gyfrif Twitter.