Fe fu’n rhaid i gwmni tafarnau Wetherspoon dynnu stecen oddi ar eu bwydlen ar noson Clwb Stecen, ond mae’r cyflenwyr yn mynnu nad yw’r cynnyrch yn anniogel.

Doedd dim stecen Angus Aberdeen, syrlwyn na gamwn ar y fwydlen ddoe – diwrnod arferol y fargen – a chyw iâr yn cael ei gynnig yn lle stecen yn y ‘mixed grill’.

Cafodd porc a salad quinoa gyda halloumi eu cynnig yn lle stecen hefyd.

Ymddiheuriad

Yn ôl adroddiadau, mae’r cyflenwyr cig, Russell Hume yn dweud mai “rhagofal” yn unig oedd tynnu’r stecen oddi ar y fwydlen, a hynny am nad oedd wedi cael ei labelu’n gywir, ac nad oes ganddyn nhw reswm dros gredu bod y cig yn “anniogel i’w fwyta”.

Mae cwmni Wetherspoon wedi ymddiheuro.

Ar eu gwefan, mae’r cwmni’n dweud bod modd dweud yn union o ble ddaeth eu cig, a bod “safonau lles wedi’u bodloni’n llawn”.