Mae dau gynghorydd Ceidwadol ar y cyngor a ddaeth dan y lach wedi i’w harweinydd alw am glirio pobol ddigartref oddi ar strydoedd Windsor cyn priodas frenhinol ym mis Mai, wedi gadael y blaid.

Fe lwyddodd arweinydd cyngor Windsor a Maidenhead Simon Dudley i gadw ei swydd yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder a gynhaliwyd nos Lun (Ionawr 22) – a hynny er iddo ddweud y byddai gweld pobol yn begera ar y strydoedd yn rhoi argraff anffafriol o’r dref adeg priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle ar Fai 19.

Ond heddiw, mae’r cynghorwyr Paul Brimacombe ac Asghar Majeed wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gadael grwp y Ceidwadwyr ar y cyngor, ac am gario ymlaen â’u gwaith yn gynghorwyr annibynnol.