Mae Arweinydd UKIP, Henry Bolton, wedi gwrthod galwadau i gamu o’r neilltu, gan fynnu ei fod am ganolbwyntio ar Brexit.

Er gwaethaf pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth gan bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid (yr NEC), mae Henry Bolton wedi mynnu na fydd yn ildio’r awenau.

“Dw i’n parchu’r camau nesaf yn y broses gyfansoddiadol ac felly ni fyddaf yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid,” meddai wrth ohebwyr.

“I ailadrodd, ni fyddaf yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid.”

Ymddiswyddo

Mae Henry Bolton wedi bod o dan bwysau i ymddiswyddo yn sgil cyhoeddi negeseuon hiliol a gafodd eu hanfon gan ei gynbartner, Jo Marney, 25.

Hyd yma mae 12 aelod blaenllaw o fewn y blaid wedi ymddiswyddo, i brotestio yn erbyn penderfyniad Henry Bolton i beidio camu o’r neilltu.

Mae’r arweinydd hefyd wedi beirniadu’r “ymladd mewnol rhwng carfanau’r [blaid]” ac yn dweud bod angen “diwygio sylweddol a sydyn” ar yr NEC.