Mae tad y ferch wyth oed, Mylee Billingham, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, meddai’r heddlu, wrth i deyrngedau gael eu rhoi i’r ferch ysgol.

Bu farw Mylee Billingham yn yr ysbyty ddydd Sadwrn ar ôl cael ei darganfod wedi’i thrywanu mewn byngalo yn Brownhills, ger Walsall.

Mae Bill Billingham, 54, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod wedi’i drywanu yn ei stumog yn yr eiddo yn Valley View.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ am 9.15yh nos Sadwrn.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Llun a dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Nid ydyn nhw wedi holi Bill Billingham hyd yn hyn oherwydd ei gyflwr ac mae disgwyl iddo gael llawdriniaeth.

Mae blodau wedi cael eu gadael tu allan i’r tŷ er cof am Mylee Billingham.