Mae dirprwy arweinydd UKIP wedi ymddiswyddo mewn protest yn erbyn Henry Bolton sydd wedi gwrthod camu o’i swydd fel arweinydd y blaid, yn ôl adroddiadau.

Dywed Margot Parker y dylai Henry Bolton adael ei swydd ar unwaith a’i fod yn gadael y blaid mewn “limbo”.

Roedd pwyllgor y blaid wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn yr arweinydd  ddydd Sul, wythnos ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ei gariad wedi anfon negeseuon hiliol yn ymwneud a dyweddi’r Tywysog Harry, Meghan Markle.

Roedd Henry Bolton wedi bod o dan bwysau i ymddiswyddo ers i’r negeseuon gael eu hanfon gan Jo Marney, 25. Maen nhw bellach wedi gwahanu.

Ond dywedodd Margot Parker wrth BBC Radio Northampton bod bywyd personol Henry Bolton wedi “cymryd drosodd y gwaith y cafodd ei ethol i’w wneud” ac mae hi wedi ei annog i gamu o’r neilltu.

Yn ôl y BBC fe fydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd yn parhau gyda’i gwaith yn Senedd Ewrop.

Mae llefarydd y blaid ar fewnfudo, John Bickley, a’r llefarydd masnach a diwydiant, William Dartmouth, hefyd wedi cyhoeddi bore ma eu bod yn ymddiswyddo.

Fe fydd aelodau’r blaid yn penderfynu beth fydd tynged Henry Bolton mewn cyfarfod brys ym mis Chwefror.

Nigel Farage

Yn y cyfamser mae cadeirydd UKIP, Paul Oakden, wedi awgrymu y gallai cyn-arweinydd y blaid Nigel Farage chwarae rhan fwy blaenllaw yn y blaid unwaith eto.

Fe wnaeth ei sylwadau mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4.