Mae disgwyl eira mewn rhannau o wledydd Prydain heddiw yn dilyn y noson oeraf ers dwy flynedd.

Cyrhaeddodd y tymheredd -13.5 gradd selsiws yn yr Alban neithiwr, ac roedd ymhell o dan y rhewbwynt yn ne-ddwyrain Lloegr hefyd.

Mae rhybudd melyn yn ei le, yn rhybuddio bod eira a rhew ar eu ffordd yn yr Alban, gogledd Cymru a rhannau deheuol o Loegr tan oddeutu 6 o’r gloch heno.

Mae disgwyl rhew ar y ffyrdd, ac fe allai achosi oedi i deithwyr drwy wledydd Prydain.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd, yn enwedig yn Eryri.

 

 

 

Mae rhybuddion yn eu lle hefyd ar Ynys Manaw a Gogledd Iwerddon.