Dywed arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, y byddai wrth ei fodd yn croesawu Prydain yn ôl i’r Undeb Ewropeaidd.

Er ei fod yn parchu pleidlais y Deyrnas Unedig i adael, mae’n gresynu ati, meddai, gan ddweud y bydd yn tristau’r 27 gwlad arall.

Dywed hefyd na all Prydain ddisgwyl ffafriaeth arbennig wrth adael, a bod mynediad llawn i’r farchnad sengl yn golygu cyfrannu ati a chadw at ei rheolau.