Mae Boris Johnson wedi awgrymu y gallai cyswllt newydd ar draws y Sianel gael ei ystyried yn dilyn trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor bod “cysylltiadau da” yn hanfodol yn y berthynas rhwng y ddwy wlad.

Roedd Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron a’r Prif Weinidog Theresa May yn bresennol yn y gynhadledd, meddai, ac maen nhw wedi cytuno i sefydlu panel o arbenigwyr i edrych ar brosiectau o’r fath.

Credir bod Boris Johnson eisiau cyswllt newydd parhaol rhwng y DU a Ffrainc, yn ogystal a Thwnnel y Sianel,  a’i fod wedi dweud ei fod yn “wallgof mai dim ond un rheilffordd sy’n cysylltu dwy o’r economïau mwyaf yn y byd pan mai dim ond 20 milltir ar wahân maen nhw.”