Mae’n rhaid i Aelodau Seneddol benderfynu os oes modd cyfiawnhau’r gost o drwsio Palas Westminster, cyn gwneud yn siwr eu bod yn cael gwerth am arian. Dyna rybudd Arweinydd y Ty, Andrea Leadsom.

Mae hi’n mynnu fod angen gwneud gwaith ar yr adeilad gothing ar lan afon Tafwys – er bod angen “trafodaeth agored”, meddai, ynglyn â sut y mae gwneud hyn.

Mae yna bryder tros y gost  o rhwng £3.5bn a £7.1bn fydd ei angen i wneud y gwaith, yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae modd cwblhau’r gwaith. Fe fyddai angen i Aelodau Seneddol a’r Arglwyddi a’u staff gytuno i symud o’u swyddfeydd dros dro, tra byddai’r gwaith yn mynd rhagddo.

“Mae’r penderfyniad gerbron Aelodau Seneddol yn golygu pwyso a mesur statws y lle hwn fel eicon hanesyddol,” meddai Andrea Leadsom.

“Mae angen i’r Ty benderfynu a ydi o’n gallu cyfiawnhau yr holl waith sydd angen ei wneud ar yr adeilad er mwyn ei gynnal a’i gadw, oherwydd mae’n Safle Treftadaeth y Byd hefyd, ac mae dros filiwn o ymwelwyr yn dod yma bob blwyddyn.

“Ond eto, mae’n gyfnod o lymder ac o doriadau ariannol, ac mae yna bobol yn gorfod byw ar lai o arian,” meddai wedyn. “Mae’n benderfyniad agored sydd angen i’r Ty ei wneud, yn seiliedig ar drafodaeth iawn.”