Mae’r digrifwr, Ken Dodd, wedi diolch i staff y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi bod yn edrych ar ei ol yn yr ysbyty, wedi iddo gael ei daro’n wael â niwmonia yr wythnos ddiwethaf.

Fe gafodd ei gludo i un o ysbytai Lerpwl ddydd Gwener, ac yno mae wedi bod yn cael triniaeth at lid ar ei ysgyfaint.

“Mae’n cael y driniaeth orau un, ac mae’n llawn canmoliaeth ac yn ddiolchgar iawn,” meddai ei asiant, Robert Holmes.

“Mae’n cael y gofal gorau posib mewn ysbyty NHS. Mae’n cael antibiotig at ei haint, a gobeithio – os Duw a’i myn – y bydd yn ol yn iach yn fuan.”