Mae mwy na 200 o ysgolion Gogledd Iwerddon ar gau heddiw, yn dilyn eira trwm.

Mae’r tywydd hefyd yn gwneud amodau gyrru yn anodd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer eira, sy’n golygu bod yna risg gynyddol o fwy o dywydd gwael a allai effeithio ar gyflenwad trydan a gallu pobol i deithio o le i le.

Fe gwymodd naw modfedd (23cm) o eira yn Glenanne yn Armagh, ac mae cannoedd o gwsmeriaid cwmni Northern Ireland Electricity heb drydan yn eu tai.

Mae’r ysgolion sydd ar gau heddiw gan fwyaf yn ardaloedd Belffast siroedd Down, Armagh ac Antrim.