Roedd carcharu Gerry Adams dros ddeugain mlynedd yn ol, yn weithred anghyfreithlon oherwydd methiannau yn y broses, meddai achos yn y Llys Apêl heddiw.

Mae arweinydd Sinn Fein, a fydd yn camnu o’r neilltu y mis nesaf, wedi cyflwyno her gyfreithiol mewn ymgais i wyrdroi dau achos yn 1975 pan gafodd ei ddal heb achos yn ngharchar y Maze.

Mae’r her gyfan yn cylchdroi o gwmpas pwynt technegol sy’n honni nad oedd carcharu Gerry Adams yn gyfreithlon oherwydd nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd wedi ystyried y gorchymyn i’w gadw dan glo.

Mae’r mater wedi’i drafod yn fanwl heddiw (dydd Mawrth) gan dri o farnwyr mwya’ profiadol Gogledd Iwerddon yn y Llysoedd Brenhinol yn ninas Belffast.

Fe gafodd Gerry Adams ei arestio ym mis Gorffennaf 1973, a’i gadw wedyn yng Ngharchar y Maze (neu Long Kesh).