Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn yr achos yn erbyn dyn 24 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio merch yn ei harddegau ac o guddio’r corff mewn cwpwrdd dillad wedi ei selio gyda cling-ffilm am fwy na phythefnos.

Mae Ashley Foster wedi cyfaddef i gyhuddiad o atal claddedigaeth weddus a chyfreithlon i Megan Bills, ond mae’n gwadu ei llofruddio yn ei ystafell mewn hostel ym Brierley Hill, canolbarth Lloegr.

Mae’r achos wedi para saith diwrnod yn Llys y Goron Wolverhampton, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r llys wedi clywed bod Ashley Foster wedi cael ei ryddhau o’r carchar dridiau cyn yr honnir iddo grogi’r ferch.

Mae’r erlyniad hefyd wedi honni i Megan Bills ddiodde’ ymosodiad rhyw treisgar cyn ei marwolaeth.