Mae dyn sy’n cyfaddef iddo gael ei ysbrydoli gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn cael ei gyhuddo o gynllwynio ymosodiadau yng ngwledydd Prydain – ac o ystyried ymosod ar Big Ben a Gwarchodlu’r Frenhines, yn ôl llys.

Mae Umar Haque, 25, wedi ennyn cymorth a chefnogaeth eraill yn ei fosg lleol, lle bu hefyd yn ceisio dylanwadu ar blant drwy chwarae rôl a dangos fideos eithafol.

“Hanfod yr achos hwn yw bod y diffynnydd cyntaf Umar Haque wedi penderfynu yn 2016 a dechrau 2017 i gynnal un neu ragor o ymosodiadau treisgar gydag eraill pe bai’n gallu yn y wlad hon,” meddai Mark Heywood QC wrth agor yr achos yn yr Old Bailey.

Mae Abuthaher Mamun, 19, Muhammad Abid, 27, a Nadeem Patel, 26, a oedd yn adnabod Umar Haque trwy fosg Ripple Road yn Barking, i’r dwyrain o Lundain, wedi cael eu cyhuddo o’i helpu mewn sawl ffordd hefyd.

Mae Umar Haque wedi cyfaddef i gyhuddiad o gasglu gwybodaeth am frawychiaeth ac i gyhuddiad pellach o rannu cyhoeddiad brawychol.