Mae arweinydd UKIP, Henry Bolton, wedi cyhoeddi ei fod o a’i gariad, Jo Marney, wedi gwahanu.

Daw’r newyddion yn sgil honiadau bod Jo Marney, sy’n 25 oed, wedi gwneud sylwadau “hiliol” am ddyweddi’r Tywysog Harri, Meghan Markle.

Yn ôl y papur newydd, The Mail On Sunday, roedd Jo Marney wedi anfon negeseuon testun a oedd yn cynnwys y gair “negro”, a’r frawddeg “Prydain yw fan hyn, nid Affrica”, yn ystod trafodaeth am y briodas frenhinol.

Ers hynny, mae rhai o aelodau UKIP wedi galw ar Henry Bolton i ymddiswyddo o fod yn arweinydd y blaid – cafodd ei ethol i’r swydd ym mis Medi 2017.

Ond mae Henry Bolton wedi cyhoeddi erbyn hyn “nad oedd y berthynas rhyngddo ef â Jo Marney yn gweithio”, a’i fod wedi penderfynu dod â’r berthynas i ben.

Serch hynny, mae’n mynnu ei fod yn dal i roi cefnogaeth i deulu ei gyn-gariad, a hynny yn sgil y digwyddiad diweddar hwn sydd wedi achosi “gofid” iddyn nhw.