Mae cwmni adeiladu Carillion wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl i drafodaethau brys yn Whitehall fethu a dod i gytundeb i achub y cwmni, sy’n cyflogi 20,000 o weithwyr ledled gwledydd Prydain.

Mae gan Carillion ddyledion o £900m a diffyg o £590m yn ei gronfa bensiwn.

Dywedodd y cwmni “nad oes dewis ond cymryd camau i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ar unwaith”.

Roedd y Llywodraeth wedi bod o dan bwysau cynyddol i ymyrryd i geisio atal y cwmni rhag mynd i’r wal. Mae Carillion yn gysylltiedig â nifer o brosiectau isadeiledd allweddol.

Mae gan y cwmni gytundebau gyda phrosiectau cyhoeddus/preifat gwerth £1.7bn, gan gynnwys darparu ciniawau ysgol, glanhau ac arlwyo mewn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd, gwaith adeiladu ar brosiectau rheilffyrdd fel HS2, a chynnal a chadw 50,000 o gartrefi yn safleoedd y fyddin ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ar ôl dyddiau o gyfarfodydd rhwng gweinidogion y Llywodraeth a phenaethiaid y cwmni, roedd adroddiadau bod bwrdd Carillion ar fin gwneud apêl olaf i fenthycwyr cyn penodi gweinyddwyr.

Ond dywed y cwmni nad oedd wedi llwyddo i sicrhau’r “gefnogaeth ariannol yn y tymor byr” er mwyn parhau i fasnachu.

Fe fydd y Blaid Lafur yn gofyn i weinidogion pam fod y sefyllfa wedi cyrraedd sefyllfa mor argyfyngus ac mae undeb Unite wedi galw am ymchwiliad i’r argyfwng.