Mae Jo Marney, cariad arweinydd UKIP Henry Bolton, wedi cael ei gwahardd o’r blaid ar ôl gwneud sylwadau hiliol am Meghan Markle, dyweddi Tywysog Harry.

Gwnaeth hi’r sylwadau am Meghan Markle a phobol groenddu eraill mewn cyfres o negeseuon at ei ffrindiau, yn ôl y Mail on Sunday.

Ymddiheurodd “yn ddi-ben-draw” am y sylwadau, meddai mewn datganiad, ond ychwanegodd fod y sylwadau “allan o’u cyd-destun”.

Mae ei pherthynas â Henry Bolton yn destun ymchwiliad mewnol gan y blaid, ac mae galwadau ar i Henry Bolton ei gwahardd yn barhaol a diddymu ei haelodaeth.

Ac mae’r cyn-ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid, Ben Walker wedi galw ar i Henry Bolton ymddiswyddo ar sail “camfarnu sylweddol”.

Dywedodd cadeirydd UKIP, Paul Oakden nad yw’r blaid yn “cymeradwyo hiliaeth”.

Henry Bolton

Mae Henry Bolton yntau eisoes yn wynebu cwestiynau am ei fywyd preifat.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar ei fod e wedi gadael ei wraig, Tatiana ar ôl iddi eni eu hail blentyn yn 2016 ac fe ddaeth ei berthynas â Jo Marney i’r amlwg yn ddiweddar.

Ond mae’n gwadu iddo gael perthynas odinebus â hi.

Fe fydd pwyllgor UKIP yn trafod ei fywyd preifat yn ystod cynhadledd yn ddiweddarach y mis yma.

Mae Jo Marney yn ei disgrifio’i hun fel model, actores a newyddiadurwraig.